Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2017 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 166 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan gyfuniadau o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.
Gwnaed Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“y prif Reoliadau”) o dan y pwerau yn adran 166 a daethant i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth gael eu gwneud gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol penodedig o dan gyfarwyddyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r prif Reoliadau hefyd yn pennu’r swyddogaethau awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu’r swyddogaethau o dan adran 14A o Ddeddf 2014 at y rhestr o swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol a bennir i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 19 o’r prif Reoliadau (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) drwy hepgor rheoliad 19(1)(c) ac ychwanegu rheoliad newydd 19(1A) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun os ydynt yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i asesiad o dan adran 14 o Ddeddf 2014 (a adwaenir fel asesiad poblogaeth).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o
dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2017 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed ***
Yn dod i rym 1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 166(2)(b) a 167(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]).
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau
Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015([2]).
Diwygio’r prif Reoliadau
2.—(1)(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a
ganlyn.
(2) Yn rheoliad 19—
(a) hepgorer paragraff (1)(c);
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
(1A) Os yw unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid iddynt ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun.
(3) Yn Atodlen 1, Tabl 2 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) ar y diwedd mewnosoder—
“Adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([3]) (cynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14)”.
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad